Margaret GaynorDRUSE27ain o Hydref 2025
Yn dawel, yng nghwmni ei phlant, yn 78 mlwydd oed, ar ôl cyfnod byr o salwch, o "Arfryn", 9 Tan-y-Cae, Bethel, Caernarfon. Priod annwyl Philip, mam gariadus i Hedd, Eurig a Lois, mam-yng-nghyfraith hoff i Jen, Llinos a John, a nain werthfawr iawn i Liam, Sam, Gwydion, Tirion, Iwan, Llion, Enlli ac Elain.
Bydd gwasanaeth cyhoeddus i'w chofio yn Amlosgfa Bangor ar ddydd Mawrth, 18fed o Dachwedd 2025 am 10:00 o'r gloch.
Blodau gan y teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion er cof am Margaret tuag at Ysgol Gynradd Maesincla, Caernarfon, lle bu'n athrawes am gyfnod hapus o ugain mlynedd. Gellir gwneud sieciau yn daladwy i - 'Ysgol Gynradd Maesincla'.
Bydd yn golled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau, ond fe erys ei charedigrwydd, ei hiwmor a'i chariad yn fyw yn ein calonnau am byth.
Ymholiadau - Gwilym Jones a'i Fab, Ln Parc, Caernarfon. LL55 2HP (01286) 673072
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret